P-05-1098 Dylai rôl Cymru yn hanes trefedigaethol Prydain fod yn bwnc gorfodol mewn ysgolion

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Anthony Cusack, ar ôl casglu cyfanswm o 50 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Ar hyn o bryd mae'r ddadl ynghylch hil yn flaenllaw ym meddyliau pawb. Mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn wyn, sy’n golygu ein bod mewn sefyllfa ffodus oherwydd mae meddwl am hil yn fater o ddewis. I lawer yn y gymuned BAME nid dewis yw hwn, ond ffaith a wynebir bob dydd. Chwaraeodd Cymru a phobl Cymru ran weithredol yn hanes trefedigaethol Prydain. Yn ddiweddarach, dathlwyd ffigurau fel Thomas Picton gyda cherfluniau.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r rhan hon o’n hanes yn llawn cymhlethdodau ac mae llawer o wirioneddau anghyfforddus y mae'n rhaid i ni fel poblogaeth fynd i'r afael â nhw a chraffu arnynt. Mae llawer o bobl o’r farn bod hiliaeth a gwahaniaethu ar sail hil yn broblem mewn gwledydd eraill ond nid yma. Rwy'n credu bod cysylltiad cryf rhwng hyn a diffyg addysg am hanes trefedigaethol y wlad hon.

Mae deiseb debyg yn casglu llofnodion ac yn galw ar lywodraeth y DU i weithredu. Rwy'n credu y dylem hefyd fynd i'r afael â hyn yma fel mater datganoledig.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Caerdydd

·         Canol De Cymru